Ymgynghoriad yn fyw

Dewch i'n gweld

Rydym am glywed barn y rhai sy’n byw ac yn gweithio ger Parc Solar arfaethedig Penllergaer. Rydyn ni wedi trefnu dau ddigwyddiad galw heibio i bobl gael rhagor o wybodaeth, cwrdd â thîm y prosiect a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw:

Digwyddiad 1

Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025

10am – 3pm

Neuadd Bentref Pontlliw, SA4 9EX

Digwyddiad 2

Dydd Mercher 22 Ionawr 2025

2pm – 7pm

Neuadd Les Felindre, SA5 7NA

Dogfennaeth y prosiect

Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi trosolwg o'r prosiect a'r wybodaeth allweddol.

Dolen i Dogfennaeth y prosiect

Ymgynghoriad

Bellach rydyn ni'n ymgynghori â’r gymuned ar ein cais cynllunio drafft a’n cynnig buddsoddiad cymunedol.  

Cynhelir ein hymgynghoriad cyhoeddus rhwng dydd Mawrth 17 Rhagfyr 2024 a dydd Mercher 5 Chwefror 2025.

Bydd yr ymgynghoriad statudol hwn yn rhoi’r cyfle i chi archwilio ein cynigion diweddaraf a darparu eich sylwadau / ymatebion i ni eu hystyried cyn i’r cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) gael ei gwblhau a’i gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio Amgylchedd Cymru.

Mae holl fanylion yr ymgynghoriad ar gael yn ein cylchlythyr

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yn ein hadran dogfennaeth y prosiect a’n byrddau arddangos.

Adborth

Rydym yn eich gwahodd i roi adborth ar ein cynigion drafft hefyd trwy ein ffurflen ar-lein.

Rhowch adborth i ni trwy lenwi'r ffurflen adborth hon erbyn dydd Mercher 5 Chwefror 2025.

Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn ni'n paratoi adroddiad ymgynghori yn arddangos sut rydyn ni wedi adolygu ac ymateb i’r holl adborth a dderbyniwyd.  Bydd yr adroddiad hwn yn cyd-fynd â’r cais cynllunio a gyflwynir i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w ystyried

Dim ond at ddiben y cais cynllunio y bydd unrhyw adborth a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio a'i anfon ymlaen at Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) ac ni chaiff ei ddatgelu i unrhyw drydydd parti. Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu hanfon ymlaen yn gyfrinachol i PEDW fel y gallwch gael gwybod am eu hymgynghoriad ar y cais ac ni fyddant yn cael eu rhestru yn nogfennaeth y cais cynllunio.

Cliciwch yma i roi adborth

E-bost - E-bostiwch eich sylwadau atom i enquiries@penllergaersolar.com.

Ysgrifennu at: Freepost GRASSHOPPER CONSULT (does dim angen stamp na chyfeiriad ychwanegol)

Ffonio –  Rydyn ni yma i wrando ar eich barn. Gallwch siarad ag aelod o'r tîm drwy ffonio 01792 001553.

Cysylltu â ni –  Rhowch eich manylion cyswllt os hoffech chi gael diweddariad am y prosiect.

I ddeall beth rydym yn ei wneud gyda’ch data, darllenwch ein datganiad GDPR yma

Cyflwynwch adborth ar y cynigion cyn dydd Mercher 5 Chwefror 2025.

Cliciwch i gysylltu